Swyddfa Docynnau
Os oes gennych chi gwestiwn cyffredinol am eich ymweliad â’r Arena, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Gall staff ein Swyddfa Docynnau helpu gyda'ch ymholiad. Boed hynny’n ddewis y seddi gorau, neu’n siarad â chi drwy ein cynlluniau eistedd, rydyn ni yma i helpu. (Ac rydyn ni ar rif ffôn lleol hefyd).
Mae prynu drwy ein Swyddfa Docynnau yn golygu y gallwch brynu’n hyderus. Rydym wedi ein cofrestru gyda S.T.A.R. felly gallwch chi deimlo'n dawel eich meddwl ac osgoi unrhyw driciau cas gan rai darparwyr tocynnau ar-lein eraill. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth rhestr aros felly os daw tocynnau ar gael ar gyfer y sioe honno sydd wedi gwerthu allan - bydd ein tîm yn ceisio eich ffonio i gymryd eich archeb.
LLINELL FFÔN Y SWYDDFA DOCYNNAU / AMSEROEDD AGOR
Llun - Gwener
10am - 4pm
Dydd Sadwrn
Ar gau
Sul
Ar gau
Ar ddiwrnodau sioe
Bydd cownter y Swyddfa Docynnau yn agor ar gyfer casglu tocynnau a gwerthu tocynnau (yn amodol ar argaeledd) hyd nes y bydd y brif act yn cyrraedd y llwyfan (yn amodol ar newid).
Ar ddiwrnod sioe penwythnos mae'r Swyddfa Docynnau ar agor o 4pm hyd nes y bydd y brif act yn cyrraedd y llwyfan (yn amodol ar newid).
Arall
Sylwch y gallai ein llinellau ffôn gau yn gynnar weithiau am resymau hyfforddi staff neu resymau mewnol eraill. Derbyniwch ein hymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Cysylltwch â Ni
TERMS & CONDITIONS
Rydym wedi cynnwys ein Terms & Conditions sydd wedi’u hargraffu ar gefn ein tocynnau yma
ARCHEBU AR GYFER GRWPIAU
Dewch â grŵp at ei gilydd a gallwch fwynhau gostyngiadau pellach. (Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hunlun grŵp a'i anfon atom). E-bostiwch boxoffice.cardiff@livenation.co.uk i ddarganfod faint y gallwch chi ei arbed.